Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Sign Up for Fishpond's Best Deals Delivered to You Every Day
Go
Ar Flaen fy Nhafod - ­Casgliad o Ymadroddion ­Cymraeg [Welsh]
Casgliad o Ymadroddion Cymraeg

Rating
Format
Paperback, 240 pages
Published
United Kingdom, 17 February 2016

A valuable volume by a word-guru, being a collection of a variety of entertaining Welsh idioms, words and sayings. First Published in 2012.


Our Price
$26.53
Ships from UK Estimated delivery date: 19th May - 27th May from UK
Free Shipping Worldwide

Already Own It? Sell Yours
Buy Together
$41.44

Product Description

A valuable volume by a word-guru, being a collection of a variety of entertaining Welsh idioms, words and sayings. First Published in 2012.

Product Details
EAN
9781843239666
ISBN
1843239663
Publisher
Age Range
Dimensions
19.7 x 16.8 centimeters (0.35 kg)

Reviews

This book of Welsh phrases is a joyful journey around the language of heaven. D. Geraint Lewis is a past master at leading people along the sometimes thorny paths of Welsh and clearing the way. The phrases contained in this book are varied, intriguing and entertaining. Enjoy the trip.
*Cyhoeddwr: Gomer@Lolfa*

Yn y gyfrol hon mae D. Geraint Lewis yn corlannu casgliad o ymadroddion amrywiol a difyr yn yr iaith Gymraeg ac yn mynd ar drywydd yr ymadrodd ‘pert’ yn ei arddull ddihafal ei hun. Daw’r ymadroddion o bob cwr o fywyd Cymru, ac o bob ardal hefyd. Mae tarddiad a chyd-destun yn ychwanegu at gyfanrwydd y darlun, ac mae mynegai Saesneg i wneud y gyfrol yn ddefnyddiol i ddysgwyr ac addysgwyr fel ei gilydd. Nid cyfeirlyfr mo’r gyfrol ond taith ansbaradigaethus o gwmpas yr iaith a’i nodweddion unigryw a rhyfeddol. Mwynhewch y wibdaith.
*Cyhoeddwr: Gomer@Lolfa*

‘Taith ansbaradigaethus o gwmpas yr iaith a’i nodweddion unigryw ...’ medd broliant y gyfrol. Dyna air! Aeth dros hanner canrif heibio ers i mi ei glywed o’r blaen, er mai ‘ansbaradigolaethus’ gofia i yn y fro rhwng Swyddffynnon a Thregaron.

Wn i ddim beth yn union yw ei ystyr. Rhywbeth fel ‘ysbrydoledig’, gydag elfen o ‘carlamus’ ac ‘amarch’, goelia i. Yn rhyfedd, dim ond ar glawr ôl y gyfrol y gwelais y gair ac ni ddeuthum o hyd iddo y tu mewn, nac o fewn cloriau unrhyw eiriadur Cymraeg arall, chwaith, er chwilota yn ngeiriadur William Owen Pughe (y trydydd argraffiad), J. Bodvan Anwyl (yr wythfed argraffiad), Geiriadur Prifysgol Cymru (1950) ac amryw eraill. Ofer fu ymgynghori â Bruce, hefyd, ond gan nad wyf yn sicr o union ystyr Saesneg y gair, hwyrach i mi edrych yn y lle anghywir.

Ond mewn difri, dyma gyfrol gyfoethog ac ardderchog, un y dylai pob Cymro sy’n ei ystyried ei hun yn hanner diwylliedig ei phrynu, ei defnyddio a’i thrysori. Mae ynddi'r casgliad gwerthfawrocaf o ymadroddion cyhyrog Cymraeg, rhai hen a newydd, parchus a llai parchus.

Cawn wybod ffynonellau llawer o’r ymadroddion, yn arbennig y rhai Beiblaidd. Ond fe wna i oedi gyda’r mwy bydol, megis ‘cyllell sbaddu malwod’ am gyllell ddiwerth heb fawr o awch iddi, a ‘rhech mochyn coron’ – rhywbeth arall da i ddim. ‘Rhech mochyn ’whech’ gofia i. Mi fyse hwnnw’n fwy diwerth fyth!

Chlywais i erioed am ‘gi rhech’ ond y tarddiad, yn ôl D. Geraint Lewis, oedd arfer y byddigions o fynd â chi neu ddau i’r stafell giniawa. Pan fyddai arogleuon drwg yn llenwi’r stafell byddai rhywun yn gafael yn un o’r cŵn a mynd ag e allan gan roi stŵr iddo am ollwng gwynt ac arbed embaras i’r hwn oedd yn gyfrifol go iawn.

O sôn am gŵn fe geir yr hen ddywediad, ‘ci tawel sy’n cnoi’, ond gan hepgor yr ail linell a ddaw i’r cof – ‘gast dawel sy’n rhoi’. Dro arall ceir ail gymal annisgwyl ac, i mi, un cwbl ddieithr – ‘mae gwaed yn dewch na dŵr (ac yn berwi’n gynt)’! Ac ambell eglurhad doniol – ‘llyfu tin; un gradd yn waeth na sychu tin’! Wyddwn i ddim fod y dywediad ‘dim gobaith caneri’ yn tarddu o’r dyddiau pan aed â chaneris lawr y pyllau glo i weld a oedd nwy yno.

Dyma gyfrol sy’n brawf o rymuster cryno’r Gymraeg, a’i hergydion ardderchog. Casgliad o ddywediadau i’w hadfer i’n bywydau bob dydd, i’w cyflwyno i ddysgwyr a’r cenedlaethau i ddod, ac i brocio cof y gweddill ohonom. Gwych, hefyd, yw’r drefn o groesgyfeirio a’r mynegai Saesneg. ‘Gorau cof, llyfr.’
*Gwyn Griffiths @ www.gwales.com*

Show more
Review this Product
Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.