Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Cof Cenedl XIX - Ysgrifau ar Hanes Cymru [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Mae’r gyfres hon, dros nifer o flynyddoedd bellach, wedi rhoi cyfle i ymchwilwyr profiadol a newydd rannu canlyniadau eu gwaith. Dyma’r bedwaredd gyfrol ar bymtheg ac, fel nifer o’i rhagflaenwyr, mae’n cynnwys amrywiaeth o bynciau yn ymestyn dros bum can mlynedd o hanes Cymru. Mae’r gyfrol ddiweddaraf yn cynnwys chwe ysgrif: * Hanes cerdd dant yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol (Sally Harper) * Catholigion alltud o Gymru a’u cyswllt â’r Eidal yn yr unfed ganrif ar bymtheg (Angharad Price) * Achos Gwen Ferch Ellis, dewines a ddienyddiwyd yn 1594 (Richard Suggett) * Yr anterliwtiau cynnar (Ffion Mair Jones) * Hanes perchenogion llongau Cymreig Caerdydd, yn arbennig yn ystod oes aur yr allforio glo (David Jenkins) * Delweddau’r glöwr Cymreig ar ffilm 1935–1951 (Gwenno Ffrancon) Byddai'n amhosibl gwneud cyfiawnder â’r cyfraniadau hyn mewn adolygiad cymharol fyr, ond i adolygydd sydd ond yn gwybod ychydig am rai o’r meysydd uchod mae’r ymdriniaeth o’r pynciau’n ddifyr. Mae dyfnder yr ymdriniaethau hefyd yn debygol o apelio at gynulleidfa mwy hyddysg ac arbenigol. Mewn geiriau eraill, mae llawer yn y gyfrol all apelio at gynulleidfa eang. A dilyn mympwy’r adolygydd, hoffwn dynnu sylw at ysgrif Dr Gwenno Ffrancon sy’n canolbwyntio ar gyfres o ffilmiau yn ymwneud â’r glöwr Cymreig rhwng 1935 a 1951. Datgelir ffeithiau diddorol am awduron – Richard Llewellyn (How Green Was My Valley) ac A. J. Cronin (The Citadel) yn bennaf – ac am gynhyrchwyr y ffilmiau, King Vidor a John Ford. Mae’r sylwadau am Emlyn Williams, Paul Robeson ac Amanwy hefyd yn agoriad llygad. Bu dylanwad rhamanteiddio ac Americaneiddio yn enghreifftiau cynnar o globaleiddio gan ddefnyddio cyfrwng a dyfodd yn boblogaidd dros y cyfnod, er bod y gwylwyr yn dioddef mewn 'cytiau chwain', chwedl yr awdur. Er bod ysgrif David Jenkins yn canolbwyntio ar berchenogion llongau Cymreig Caerdydd, diddorol yw olrhain hanes rhai o’r cwmnïau a ddaeth yn flaenllaw iawn yn hanes datblygiad y porthladd. Roedd man cychwyn nifer ohonynt mewn lleoliadau eraill yng Nghymru – Aberystwyth a phorthladdoedd Llŷn yn bennaf – a’r lleoliadau hyn yn parhau’n bwysig fel mannau cofrestredig y cwmnïau er bod y masnachu’n digwydd yn gyfan gwbl trwy borthladd Caerdydd. Bu rhai unigolion yn ddylanwadol iawn yn gwerthu cyfranddaliadau yn y cwmnïau hyn; yn eu plith y Parchedig John Cynddylan Jones o Gapel Dewi, ger Aberystwyth. Buddsoddwr amlwg yn y mentrau hyn ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Thomas Charles Edwards, Prifathro Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ar y pryd. Fel sy’n amlwg, mae llawer i’w gymeradwyo yn y gyfrol hon. Cynhwysir llyfryddiaeth ar ddiwedd pob ysgrif a gwneir defnydd da o luniau. Serch hynny, mae pob ysgrif yn dalp go solet o ysgrifennu, a buddiol efallai i’r darllenydd fyddai gweld mwy o raniadau o fewn yr ysgrifau gan ddefnyddio cyfres o is-benawdau.
*Richard H. Morgan @ www.gwales.com*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Home » Books » History » Europe » Great Britain » General
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.