Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Cyfres Anthony Horowitz [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Roedd y llyfr yma yn wych. Mae yma ddwy stori ac mae y ddwy ohonyn nhw yn eitha erchyll. Rwy'n meddwl eu bod nhwn addas i blant tua 9-12 oed neu rai hyn. Maer stori gynta, Bwthyn Tro, am fwthyn yng nghanol y goedwig (lleoliad digon dychrynllyd!) lle mae yna ysbryd sydd wedi lladd llawer o fenywod. Mae tad y bachgen sydd yn adrodd y stori mewn perthynas annifyr iawn gyda Ffrances sy'n mynnu eu bod nhwn symud i gartref newydd. Tybed a fydd y bwthyn hwn yn datrys ei broblem? Roeddwn in hoff iawn or stori hon oherwydd y ffordd y mae'r awdur yn defnyddio rhywbeth mor ystrydebol a chyffredin 'bwthyn yn y goedwig, sy'n ein hatgoffa o stori'r Hugan Fach Goch, i greu rhywbeth hollol fodern a chredadwy. Os ydych chin ofni cael hunllef peidiwch BYTH a darllen Hunllef Harriet! Yn yr hunllef mae'r tad am werthu ei blentyn i weithio mewn bwyty crand yn Llundain, ond mae mwy o lawer i'r stori arswydus hon, ac anodd oedd cysgu'n dawel ar l ei darllen! Darllenwch hi ar ddiwrnod o haf yng nghwmni eich teulu. Dyma lyfr cyffrous arall gan awdur sydd yn deall ofnau plant ir dim. Maer addasiad Cymraeg yn ddarllenadwy iawn hefyd. Thomas Huw Constantine Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
People also searched for
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.