Tra bod gwaed yn llifo trwy fy nghorff i, ac er mwyn fy nhad ar brenin, rhaid i mi lwyddo. Dyna ddywed Tom, arwr y gyfrol, wrth iddo geisio rhyddhau Afantia rhag melltith Moelfryn y Dewin Du. Ar ddechraur llyfr ceir llythyr gan y dewin Aduro yn esbonio bod Moelfryn wedi melltithior chwe bwystfil oedd arfer gwarchod Afantia, a'u bod bellach u bryd ar ddinistrior deyrnas. Yn l yr hen lawysgrifau bydd bachgen yn mynd ar gyrch i ryddhaur chwech, ac achub y wlad. Yn y prolog rydyn in clywed am ddiwedd trist y marchog Caldor wrth iddo wynebur cyntaf or bwystfilod, Taniar Ddraig Dn. Maen amlwg or cychwyn mai dim ond gwir arwr all lwyddo. Tom ywr arwr hwnnw bachgen ifanc sydd wedi ei fagu gan ei ewyrth ai fodryb wedi iw fam farw ac iw dad ddiflannu. Wrth i fflamau Tania fygwth ei bentref, maer bachgen dewr yn mynd i weld y brenin i ofyn am gymorth. Wedi iddo sleifio ir palas sylweddola ddewin y brenin mai dymar arwr y bu disgwyl mawr amdano, a chaiff Tom ei arfogi ai anfon ar ei gyrch. Dyna pryd maer antur go iawn yn dechrau. Fy hoff beth yn y gyfrol ywr map hud syn dod yn fyw. Maer coed ar mynyddoedd yn codi or papur ac maer rhew ar y copaon yn oeri bysedd Tom. Mae yna gopi un dimensiwn or map ar dudalennau blaen y llyfr, ond trueni fod cynifer or enwau yn anodd iw darllen am eu bod yn gudd ym mhlyg y gyfrol! Symudar storin gyflym, ac maer penodau syn disgrifior frwydr Tania yn hynod gynhyrfus, ond efallai fod y cymeriadau ychydig yn arwynebol i blant hyn. Y cyntaf mewn cyfres o chwe chyfrol yw hon, ac mae yna beryg y gall yr hanesion fod braidd yn undonog. Wedi dweud hynny, maer awgrymiadau am beth ddigwyddodd i dad Tom yn ychwanegu at y diddordeb, a synhwyrwn y bydd yna dro yn y gynffon cyn diwedd y gyfres. Cerian Arianrhod Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |