Mae copi braille a phrint bras o'r llyfr yma ar gael i'w fenthyg
gan RNIB Cymru. Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth Hygyrch RNIB
Cymru ar 029 2045 0440 neu gwybodaethhygyrchcymru@rnib.org.uk am
fwy o wybodaeth.
*Cyhoeddwr: Y Lolfa*
Maer gyfrol hon yn rhan o gyfres Pen Dafad cyfres o lyfrau
byrion a chyffrous ar gyfer yr arddegau. Casgliad o straeon ar
destunau eitha heriol syn llenwi Noson boring i mewn. Er yn
wahanol iawn iw gilydd o ran arddull a chynnwys, maent oll yn
edrych ar y cylch o hau a medi. Straeon trawiadol sydd yma, yn
dangos gwreiddioldeb a newydd-deb. Ceir hanesion am ddial, am
unigrwydd ac anobaith, am hunllefau ac am uchelgais. Straeon cyfoes
ydynt, gyda sawl cyfeiriad at y we, ffonau symudol a byd yr
arddegau heddiw. Byddant yn apelio at ferched a bechgyn; or pum
stori ceir un yn unig gan ferch, ac un gyda merch yn brif gymeriad.
Maent yn straeon byr iawn, sydd yn gyffrous ac yn cynnal diddordeb
y darllenydd. Byddai modd eu darllen yn eitha cyflym, mewn noson
efallai. Rhaid nodi bod ambell stori yn gofyn am aeddfedrwydd o
dur darllenydd, ac ambell un yn creu darlun hunllefus yn y meddwl.
Eto i gyd, dyma gryfder y gyfrol sef bod yma ddeunydd hollol
newydd gyda chymeriadau credadwy y mae modd uniaethu â nhw. Yr unig
feirniadaeth sydd gen i ywr tueddiad diangen i fabwysiadu a
chymreigio geiriau Saesneg. Er fy mod in derbyn bod terminoleg
Saesneg i agweddau or dechnoleg newydd yn anorfod, a oes rhaid
derbyn sbîd cyflym a tshecio ei e-bost? Mewn un stori yn arbennig
teimlaf fod yna or-ddibyniaeth ar ebychiadau Saesneg i greu effaith
a mynegi teimladau ond wedi dweud hyn, efallai fod hyn yn rhan
or ddrama a geir yn y stori. Cyfrol fendigedig yw hon, un a fydd
yn apelio at bobl ifanc yn eu harddegau trwy gyfrwng y themâu
cyfoes, cymeriadau realistig a digwyddiadau dramatig.
*Mererid Thomas @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |