Mae Sonia Edwards yn enedigol o Gemaes, Mon ond yn byw ac yn gweithio yn Llangefni lle mae'n athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun y dref. Enillydd Llyfr y Flwyddyn yn 1966 a'r Fedal Ryddiaith yn 1999.
Cyffro, cyffuriau, cwffio -- dyna rai or elfennau a welir yn y nofel Uffar o Gosb gan Sonia Edwards. Dylan Pritchard ywr prif gymeriad ac mae ef yn gorfod dioddef drwgdeimlad criw o fechgyn eraill oherwydd ei dad. Mae Pritch Ploncar, fel y gelwir ei dad, yn hoff iawn o gwyno wrth yr heddlu am hwn, llall ac arall. Maen gwylltion ln pan ddaw ar draws nodwyddau brwnt yn y parc ac maen benderfynol o wneud rhywbeth ynghylch y sefyllfa. Ychydig a feddylia beth fydd canlyniadaur cwyno. Ei fab syn dioddef fwyaf i ddechrau ac yn cael ei hun i drwbwl pan fon cael ei ddylanwadu gan ei ffrind i'w amddiffyn ei hun ac i ddial yn erbyn y bechgyn syn ei boeni. Ar un adeg, maen ymddangos fod y bechgyn drwg yn dianc rhag cosb ar prif gymeriad yn gorfod dioddef cosb fwy llym na neb arall. Draw tro annisgwyl ar bethau erbyn y diwedd a gwelir nad ywr bechgyn drwg yn dianc yn ddi-gosb. Yn wir, mae eu cosb yn un ddifrifol iawn. Mae yma nofel yn llawn o bynciau cyfoes, pwysig iw trafod, ond rhaid dweud fy mod in bersonol yn tristu o weld bod rhegfeydd yn brithor llyfr; yn fy marn i, maent yn anaddas a di-alw-amdanynt mewn llyfr ar gyfer disgyblion yn eu harddegau cynnar. Iona Davies Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |