Dafydd yw disgybl rhif 81816 yn Ysgol Gymraeg 123 Fyd Eang ac mae’n
byw yn nhref 171 yng Nghymru. Y flwyddyn yw 2056. O fore hyd nos,
mae gajets cyfrifiadurol yn rheoli ei fywyd o’r ystafell gawod
electronig sy’n ei olchi a’i sychu i olau coch sy’n rhybuddio ei
fam os nad yw wedi glanhau ei ddannedd. Wrth wasgu botwm oren, daw
ei orsaf waith i lawr o’r to a bydd ei ddiwrnod ysgol yn dechrau
dros y gwifrau. Mr 022 yw’r athro mathemateg a 432576 yw rhif ei
ffrind Steffan. Nid oes fiw iddo hel meddyliau na chrwydro oddi
wrth ei waith oherwydd mae athrawon yn y flwyddyn 2056 yn gallu
darllen meddyliau!
Ond wrth gael gwers hanes am ysgolion y gorffennol yn y flwyddyn
2006, mae ei fywyd yn newid. Daeth i wybod bod disgyblion 2006 yn
canu ac yn gwrando ar gerddoriaeth a nodau yn eu clustiau. Felly,
pwy sydd wedi dwyn nodau a chaneuon y blaned, tybed? Pwy yw’r
Arlywydd Iallor? Sut mae disgybl 81816 yn herio’r blaned?
Mae’r stori ffug-wyddonias yma yn mynnu atebion! Felly, mynnwch
gopi!
*Gwawr Maelor @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |