Yn y llyfr, down i adnabod Sali, y prif gymeriad sy'n byw gyda'i thad a thrwy gyfres o benodau cryno, cawn ddarlun o'i bywyd prysur a chyfle i ddod i adnabod rhai o'i ffrindiau ac aelodau o'i theulu. Mae'r llyfr yn un hwyliog a chyffrous sy'n addas i blant hyn ysgolion cynradd iw ddarllen (7--9 oed). Mae'r awdures wedi creu cymeriadau naturiol a chredadwy y gall plant uniaethu hwy. Er mai merch yw'r prif gymeriad, mae'r stori a'i chymeriadau wedi'u strwythuro fel eu bod nhwn medru apelio at fechgyn a merched fel ei gilydd. Mae'r lluniau lliwgar gan Dafydd Morris sy'n ymddangos yn gyson ym mhob pennod yn ddeniadol i blant ac yn cyfoethogi'r profiad o ddarllen. Byddai'r llyfr hefyd yn adnodd da i athrawon ysgolion cynradd er mwyn cefnogi a datblygu gwaith iaith yn yr ystafell ddosbarth. Yn sicr, wedi darllen y llyfr hwn, dwi'n siwr y byddai llawer o blant yn awchu am gael darllen mwy am anturiaethau Sali. Lowri Angharad Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |