Hurry - Only 3 left in stock!
|
Dyma lyfr hynod ddifyr i blant hynaf yr ysgol gynradd; mae'n llawn gwybodaeth a gweithgareddau yn ogystal cherddi a straeon traddodiadol a gwreiddiol. Mewn dull bywiog iawn ceir hanes dathlu calan gaeaf o'r tarddiad Celtaidd hyd at barton cyfoes, gyda chip hefyd ar arferion gwledydd Ewrop, Asia a De America. Ceir digonedd o syniadau am wisgo i fyny a choluro fel gwrach neu ysbryd, yn ogystal ryseitiau rhwydd am Gawl Gwaed a Bwyd Bwganod (ac oes, mae llond Lantern-pen-bwgan o gyflythrennu yn y gyfrol hon!!) O ran diwyg, mae'n lliwgar a deniadol, gyda nifer o ddarluniau ar bob tudalen. Os oes gwendid yn y llyfr yma, yna'r gormodedd o arddulliau darlunio yw hwnnw a safon amrywiol y ffotograffiaeth. Hawdd gweld l ffotograffydd proffesiynol. Braf yw gweld llyfr hawdd ei ddarllen sy'n berwi ffeithiau a dywediadau mor ddifyr. Bydd y llyfr hwn yn boblogaidd iawn gyda'r plant a gydag ychydig o drefnu ymlaen llaw bydd yn adnodd hynod ddefnyddiol i rieni ac athrawon. Mari Rhian Owen Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |