Nofel ôl-apocalyptaidd wedi lleoli yng Nghymru 2026 a 2066 yw Iaith
y Nefoedd. 2026, ddeg mlynedd wedi’r 'bleidlais' ac mae
gwasanaethau, cyfraith a threfn a chymdeithas wedi dadfeilio.
Gyda’r byd ar drothwy rhyfel niwclear mae awdur o Gymro, yn dilyn
damwain gas, yn cynhyrchu ffuglen ysbrydoledig wrth wella yng
nghartref ei gyhoeddwr. Erbyn 2066 mae’r rhyfel niwclear wedi bod a
chymdeithas fechan, ynysig wedi goroesi ac wedi datblygu cwlt a
chrefydd wyrdroëdig yn seiliedig ar y ffuglen gynhyrchwyd, er mai
awgrymu hyn a wneir yn hytrach na’i ddatgan. Ond, wedi deugain
mlynedd mae bwyd, ac felly cynaliadwyedd y gymdeithas fach yma, yn
dod i ben sydd yn cyflyru’r Tad i weithredu ei broffwydoliaeth
olaf. Mae arfer gyfarwydd Llwyd Owen o gyflwyno, efallai bathu, a
defnyddio geiriau anghyfarwydd Cymraeg yn y sefyllfaoedd real mae’n
eu llunio yn ategu steil yr awdur drwy’r gyfrol yma. Mae’n
cynyddu’r lecsicon Cymraeg a thynnu ambell air, gobeithio, i
ddefnydd bob dydd – 'gwarfag', er enghraifft, a pham lai? Ac mae
ambell fathiad hefyd yn cymryd eu lle’n odidog – “cadfarch
mecanyddol” er enghraifft. Rwy’n deall bod y nofelig yma’n ran o
gywaith cysyniadol, amlgyfrwng gyda Yr Ods ac angen ei darllen yn y
cydestun yma. Yn anffodus wnes i mo hyn ac mae’r nofelig ar ei phen
ei hyn, or herwydd efallai, yn llawer rhy fyr. Buaswn wrth fy modd
â thystiolaeth o’r presennol, neu’r pedair mlynedd ers y
'bleidlais', fyddai’n rhesymoli’r a chyfiawnhau darogan
apocalyptaidd. Does dim digon o gnawd, neu bwyntiau pendant yn y
nofel i alluogi’r darllenydd i gymryd rhan yn y darogan a
dychmygu’r distopia. Dwi wrth fy modd ag iaith ac arddull Llwyd
Owen a’r amgylchfyd mae’n ei greu yn ei nofelau, ac o’r herwydd
buaswn wedi hoffi mwy yn y nofel yma – efallai fod Yr Ods yn
llenwi’r bylchau?
*Gwilym Ap @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |