Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Kyffin a'i Gynefin [Welsh]
By

Rating
Hurry - Only 2 left in stock!

Product Description
Product Details

Reviews

Kyffin a’i Gynefin – Pecyn Celf Yn fy marn i – gan Carol Hesden, Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili, Caerffili Pecyn sy’n addas ar gyfer ystod o oedran Defnyddiwyd y pecyn hwn gyda disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. Mae’r deunydd yn addas ar gyfer yr oedran hwn ac mae modd ei addasu hefyd i’w ddefnyddio gyda disgyblion iau sydd ym Mlwyddyn 3 neu ym Mlwyddyn 4. Mae’r pecyn yn cynnwys nifer o agweddau sy’n drawsgwricwlaidd Mae’r pecyn yn trafod yr elfennau deall, ymchwilio a gwneud sydd yn y cwricwlwm celfyddyd. Yn ogystal â hyn mae ynddo sawl elfen a gweithgaredd trawsgwricwlaidd. Mae tudalen 4–8 o’r Llyfr Athrawon yn cynnwys gweithgareddau datblygu iaith drwy bortreadu, ysgrifennu disgrifiadol neu ddefnyddio cymariaethau. Mae gweithgareddau fel edrych ar fapiau er mwyn lleoli Afon Menai yn cyffwrdd ar waith daearyddol ac mae nifer o’r gweithgareddau wedi’u cynllunio i hybu ymwybyddiaeth o’r Cwricwlwm Cymreig. Mae digon o weithgareddau amrywiol ynddo Defnyddiwyd y pecyn fel sail ar gyfer uned o waith ar Y Tirlun ac i gyflwyno Kyffin i’r plant. Cafodd y disgyblion eu hysbrydoli wrth iddynt ymwneud â’r gweithgareddau cychwynnol. Daethant i ddysgu am hanes Kyffin a deall rhagor am ei gefndir, ei fywyd a’i waith a’r hyn a’i hysbrydolodd. Mae gweithgareddau yn y llyfr sy’n eu hannog i ymchwilio ac i ddysgu am sawl agwedd ar fywyd a gwaith Kyffin yn ogystal â gwerthfawrogi a mynegi eu barn eu hunain. Ar dudalennau 7–14 mae’r gweithgareddau sy’n ymwneud â’r elfennau ymchwilio a gwneud. Yma mae syniadau ar gyfer ymchwilio i’r prosesau a ddefnyddiwyd gan Kyffin. Mae’r gweithgareddau'n datblygu dealltwriaeth y plant yn yr elfennau gweledol o farc, llinell, tôn a lliw. Roedd y syniadau ar gyfer cynnwys technoleg gwybodaeth a’r Gweithgareddau Estynedig yn effeithiol iawn ar gyfer gwahaniaethu a chynnig gwaith ymestynnol ar gyfer disgyblion sydd â dawn amlwg mewn celfyddyd. Mae nodi gwefannau cysylltiedig a chynnwys rhestr eirfa yn berthnasol a defnyddiol. Adnodd gwych ar gyfer athrawon profiadol ac athrawon dibrofiad Mae’n becyn defnyddiol iawn i’w ddefnyddio ar gyfer uned o waith tymor ar Y Tirlun. Ar y cyfan, rhaid dweud ei fod yn adnodd gwych ar gyfer unrhyw athro neu athrawes sy’n dysgu celfyddyd ac yn gymorth arbennig ar gyfer athrawon nad ydynt yn hyderus iawn yn y maes.
*Cyngor Llyfrau Cymru*

Ask a Question About this Product More...
 
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.