Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Llyfrau Llafar Gwlad:52. Dilyn Afon Dwyfor [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Wrth ddarllen, hawdd oedd dychmygu fy mod ar un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd – mae’r awdur yn drefnydd ac arweinydd teithiau poblogaidd i’r gymdeithas honno yng Ngwynedd ers blynyddoedd. Cefais fy hun yn darlunio golygfeydd a sefyllfaoedd yn fy mhen a chlywed llais dwfn Tom yn bwrw iddi yn ei arddull hwyliog arferol i sgwrsio am enwau’r pyllau a disgrifio nodweddion yr afon. Mae’n gyforiog o atgofion am gymeriadau, yn enwedig wrth ddisgrifio troeon digri’r frawdoliaeth bysgota ar yr afon – fel stori’r cyfaill ddaliodd grocodeil yn llyn Trap!

Daw ei werthfawrogiad o fyd natur i’r amlwg yn gyson, ynghyd â’i wybodaeth eang ac amrywiol o hanes lleol, enwogion a hyd yn oed rhai o fwganod y fro. Weithiau ceir rhyw gysylltiad annisgwyl, fel y sylw mai o Benyberth (a chwalwyd i wneud lle i’r ysgol fomio honno yn Llŷn yn 1936), y daeth ffenestri talcen un o’r tai sy'n wynebu pont Llanystumdwy.

Llu o dameidiau bach fel’na, sydd fel arfer ond yn hysbys i un sydd un ai’n frodor neu yn gyfarwydd iawn â bro a’i phobl, a wna’r gyfrol hon mor ddifyr. Dichon na cheir gwybodaeth leol o’r fath mewn mannau eraill yn ogystal, ond mae bob amser yn werthfawr ei diogelu mewn print a’i gosod ar lwyfan ehangach. Yn sicr bu cofnodi a chyhoeddi enwau pyllau a chreigiau’r Ddwyfor yn gymwynas aruthrol, fel nad oes unrhyw esgus bellach dros fabwysiadu enwau estronol yn eu lle!

Hyd yn oed os na fuoch ar gyfyl glannau’r Ddwyfor, hawdd yw cael eich cyfareddu gan yr enwau, e.e. Llyn y Meirch, Gallt y Widdan, Pwll Berw, Llyn Maen Mawr, Carreg Llew, Llyn y Gwreiddyn, Llyn Befran, Pwll Gorlan, Dorlan Las, a hyd yn oed y 'Llyn Pont Goncrit' modern! Bydd y briwsion blasus a geir yma, yn enwau a hanesion, yn siŵr o’ch atgoffa o gyfoeth eich hanes lleol a’ch profiadau chwithau.

Mae gan bob afon ei hud arbennig ei hun, sy’n cyffroi bob un o’r synhwyrau, ond i ddod i’w nabod go iawn mae gwybodaeth fel a geir yma yn hanfodol. Llwyddodd yr awdur, heb amheuaeth, i godi cwr y llen, gan ddilyn trywydd aml i sgwarnog, i aml gyfeiriadau, ond gan ein tynnu'n ôl at gwrs yr afon bob tro: '. . . ond yn ôl at yr afon rŵan, neu cyrhaeddwn ni byth ben y daith'. Ie, a thaith ddifyr dros ben yw hi, mewn cwmni da.
*Twm Elias @ www.gwales.com*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Home » Books » Travel » Europe » Great Britain
Home » Books » Travel » General
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.