Cydnabyddiaethau
Ffigurau a Thablau
Rhagair
Cyflwyniad
I bwy mae’r llyfr hwn?
Yr hyn na fydd yn cael ei drafod
Diffiniadau
Sut mae defnyddio’r gyfrol hon
Gair am ieithwedd y gyfrol
Pennod 1: Cyfieithu yn y Gymru Gyfoes
Pennod 2: Pwy yw’r Cyfieithydd a Beth Mae’n ei Wneud?
Pennod 3: Theori: Sylfeini Ymarfer Gwybodus
Pennod 4: Darllen Er Mwyn Cyfieithu 81
Pennod 5: Strategaethau wrth Lunio Cyfieithiadau
Pennod 6: Sgiliau Testunol, Adolygu Gwaith ac Ansawdd Testunau
Pennod 7: Technoleg Cyfieithu a Chyfieithu Proffesiynol
Pennod 8: Clymu’r edafedd ynghyd: Cyfieithu Da, Cyfieithu Sâl
Gair i gloi
Darllen pellach
Llyfryddiaeth
Mynegai
• Mae’n tynnu ar lawer iawn o ymchwil academaidd yn y maes, yn
enwedig ar gyfer y defnydd o gyfieithu peirianyddol. Bydd hyn o
fudd i ddarllenwyr trwy roi sicrwydd iddynt bod y cyngor yn
ddibynadwy.
• Mae’n cynnwys dros 50 o enghreifftiau o gyfieithiadau go iawn, er
mwyn dangos y da a’r drwg. Bydd hyn yn helpu darllenwyr i weld
perthnasedd cynnwys y gyfrol a’r technegau a grybwyllir i waith
cyfieithwyr proffesiynol go iawn a’r byd proffesiynol go iawn.
Mae’r enghreifftiau hefyd yn helpu darllenwyr i ddeall y pwyntiau a
wneir.
• Mae’n dadansoddi’n fanwl adroddiadau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
ac yn dangos y gwallau a wneir amlaf gan ddarpar gyfieithwyr. Bydd
hyn yn helpu darllenwyr i ddysgu am yr hyn y mae angen ei osgoi i
wella eu gwaith.
• Mae’r fframwaith a gynigir ar gyfer dehongli ‘ystyr’ fel y gwnaed
yn newydd i’r drafodaeth yn y Gymraeg, ac mae’n llawer mwy manwl
na’r hyn a geir fel arfer. Bydd hyn yn helpu’r darllenwyr i
ddarllen testunau i’w cyfieithu’n fwy hyderus, ac i fod yn fwy
strategol a dadansoddol pan ddaw i ystyr.
Rheolwr Cyfieithu yw Ben Screen yn GIG Cymru. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth ym maes cyfieithu a thechnoleg iaith yn 2018, ac enillodd ei radd yn y Gymraeg yn 2014, ill dwy yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |