Bellach, mae Alun Cob wedi hen sefydlu ei hun fel awdur nofelau
antur hynod afaelgar, a dilyn yr un trywydd y mae eto yn y nofel
Tacsi i’r Tywyllwch. Dyma nofel yn y genre noir sy’n mynd â ni i
fyd erchyll dihirod go iawn – byd y gangsters a chymeriadau hynod
dreisgar o’r is-fyd sy’n dod i effeithio’n fawr iawn ar fywyd Madog
Roberts, y gyrrwr tacsi diniwed o Fangor, sy’n digwydd cael ei
lusgo i ganol y cyfan gan ei gariad, Rhiannon. Ar ddechrau’r nofel,
cawn ein cyflwyno i Madog ar un o ddyddiau tywyllaf ei fywyd wrth
iddo aros i hebrwng corff ei fam i’r amlosgfa ar ddiwrnod ei
hangladd. Ond mynd o ddrwg i waeth wnaiff pethau iddo, oherwydd
erbyn diwedd y noson, mae Rhiannon hefyd wedi diflannu. Canlyniad
hynny yw bod Madog yn treulio gweddill y nofel, er gwell neu er
gwaeth, yn ceisio dod o hyd iddi, trwy gymorth Edgar, ei ffrind
gorau, a ditectif preifat, gan arwain at y tri ohonyn nhw’n cael eu
tynnu i mewn i fyd dychrynllyd pobl y cysgodion. O safbwynt
arddull, dyma nofel hynod slic a sydyn y gellid yn hawdd ei darllen
ar un eisteddiad, gymaint yw awch y darllenydd i ddod at wreiddyn y
stori. Mae dychymyg yr awdur yn eithriadol, yn enwedig wrth iddo
ehangu cwmpawd y stori i gyfeirio at rwydweithiau o gangsters
rhyngwladol. Rhaid mai Adrian Jordan a Bojan Simonović yw rhai o
gymeriadau mwyaf brawychus unrhyw nofel Gymraeg, er bod cynildeb
dweud Alun Cob yn ei rwystro rhag ymgolli’n ormodol yn erchylltra’r
lladd a’r llofruddio treisgar. O ystyried natur y plot fe allasai
fod yn nofel gymhleth, ond mae’r modd y mae’r awdur wedi dewis
cyflwyno’r stori ar ffurf penodau byrion, gan seilio bob pennod ar
safbwynt cymeriad gwahanol, yn golygu nad felly y mae hi. Gallai’n
hawdd weithio fel drama deledu, gyda golygfeydd bachog, sydyn sy’n
symud o un cymeriad i’r llall. Caiff y stori ei gyrru yn ei blaen
yn drawiadol gan ddawn dweud a chyfoesedd crefftus Alun Cob, gan
ddwyn i gof arddull nofelau pulp fiction Americanaidd. Serch hynny,
wrth nesáu at ddiwedd y nofel, ro’n i, fel darllenydd, yn teimlo
braidd yn bryderus. A’r stori’n cyrraedd uchafbwynt hynod gyffrous
a gwaedlyd, ro’n i’n dechrau rhedeg allan o dudalennau ac yn
pryderu na fyddai’r awdur yn gallu dirwyn ei stori i ben mewn modd
digon cyflawn a boddhaus. Ac felly yn union y digwyddodd pethau.
Heb os, fe ddaeth y nofel i ben yn rhy sydyn o lawer. Mae’r
diweddglo, yn bendant, yn destun rhwystredigaeth am nad yw’r awdur
wedi llwyddo i ddatgelu digon am yr hyn sydd wedi digwydd i’r
cymeriadau dan sylw. Ond hyd yn oed wedyn, mae’r nofel yn werth ei
darllen petai ond am y stori antur afaelgar, gan obeithio na
fyddwch chi’n rhy siomedig erbyn i chi gyrraedd y dudalen olaf!
*Sioned Lleinau @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |